SL(6)320 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2023

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 ("y Prif Reoliadau"), sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i ymwelwyr tramor.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4D o’r Prif Reoliadau, sy’n ymwneud â ffioedd ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd i unigolion sydd wedi gwneud cais hwyr am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (“y Cynllun”). Mae’r diwygiadau yn darparu na chaniateir codi ffi ar unigolion sydd wedi gwneud cais o’r fath, ond na roddwyd statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog iddynt o dan y Cynllun hwnnw, am wasanaethau gofal iechyd perthnasol a ddarperir iddynt wrth i’w cais gael ei ystyried, ac o ran unrhyw ffioedd am y gwasanaethau hynny:

·         Os ydynt eisoes wedi eu codi, na chaniateir eu hadennill;

·         os ydynt eisoes wedi eu talu, fod rhaid eu had-dalu.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y 3 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn y torrir y confensiwn 21 diwrnod (h.y. y confensiwn y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol a ddarparwyd gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 31 Ionawr 2023.

Yn benodol, nodwn y canlynol yn y llythyr:

Mae Rheoliad 4D(1) o'r Prif Reoliadau yn darparu na chodir tâl ar berson sy'n gwneud cais hwyr i Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (“EUSS”) am wasanaethau perthnasol sy'n cael eu darparu tra bo ei gais yn cael ei benderfynu. Er hynny, os yw'r cais yn aflwyddiannus, mae rheoliad 4D(4) o'r Prif Reoliadau yn darparu ymhellach y codir tâl arnynt am y gwasanaethau perthnasol hynny a ddarparwyd yn ystod y cyfnod y gwnaed eu cais a'r dyddiad y penderfynwyd yn derfynol ar y cais.

A minnau wedi adolygu'r polisi ar godi tâl ar ymgeiswyr hwyr am EUSS, rwyf o'r farn nad yw'r codi tâl am driniaeth o dan Reoliad 4D(4) o'r Prif Reoliadau, yn achos ymgeiswyr hwyr am EUSS y gwrthodir eu cais wedyn, yn adlewyrchu darpariaethau Erthygl 18 o'r Cytundeb Ymadael ac Erthygl 17 o Gytundeb Gwahanu EEA EFTA.

Mae Rheoliadau 2023 yn dileu'r gofyniad i godi tâl ar ymgeiswyr hwyr aflwyddiannus i EUSS am driniaeth y GIG a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod yr oedd eu cais o dan ystyriaeth ac yn gwneud y canlynol yn ofynnol ar gyfer unrhyw daliadau am wasanaethau o'r fath: os ydynt wedi eu codi, rhaid peidio ȃ’u hadennill; os ydynt wedi eu talu, rhaid eu had-dalu.

Er bod trafodaethau gyda'r Byrddau Iechyd Lleol yn nodi na chodwyd tâl ar unrhyw unigolion yng Nghymru ac na fwriedir codi tâl arnynt am driniaeth yn hyn o beth, gwnaed Rheoliadau 2023 ar frys er mwyn sicrhau na wneir unrhyw daliadau diangen (os bydd ffioedd yn daladwy), a hefyd er mwyn sicrhau bod y Prif Reoliadau yn adlewyrchu'r Cytundeb Ymadael a'r Cytundeb Gwahanu.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Er bod y Rheoliadau yn gymwys yn rhagolygol, yn ymarferol maent yn cynnwys elfen o ôl-weithredol.

Y rheswm dros hynny yw na ellir, bellach, adennill unrhyw daliadau a godwyd am driniaeth GIG a ddarparwyd i geiswyr hwyr cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, y mae eu cais am statws preswylwyr cyn-sefydlog, neu preswylwyr sefydlog, o dan y Cynllun wedi hynny yn aflwyddiannus, o ganlyniad i’r diwygiadau a wnaed i’r Prif Reoliadau gan y Rheoliadau hyn. Yn yr un modd, rhaid ad-dalu unrhyw daliadau a adenillir gan geiswyr am driniaeth GIG cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Nodir y canlynol yn benodol y Memorandwm Esboniadol fel y cyfiawnhad o ran polisi ar gyfer yr elfen ôl-weithredol hon:

“Bydd y Rheoliadau'n sicrhau bod y Prif Reoliadau yn adlewyrchu darpariaethau Erthygl 18 o'r Cytundeb Ymadael ac Erthygl 17 o'r Cytundeb Gwahanu o ran codi tâl ar gyfer triniaeth ar ymgeiswyr hwyr i’r Cynllun Preswylio Sefydlog, ac yn sicrhau bod ymgeiswyr hwyr aflwyddiannus yn cael eu trin yr un peth â’r ymgeiswyr hynny a gyflwynodd eu cais i’r Cynllun Preswylio Sefydlog mewn pryd.”

Er gwaethaf hynny, nodir y llinell ganlynol mewn llythyr oddi wrth Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r Llywydd dyddiedig 31 Ionawr 2023:

…Er bod trafodaethau gyda'r Byrddau Iechyd Lleol yn nodi na chodwyd tâl ar unrhyw unigolion yng Nghymru ac na fwriedir codi tâl arnynt am driniaeth yn hyn o beth…

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Nid oes dyletswydd statudol i ymgynghori […]. Ystyrir nad oes angen ymgynghori ar y diwygiadau arfaethedig gan eu bod yn gweithredu cytundebau rhyngwladol y DU sy'n berthnasol i'r DU gyfan ac felly mae rhwymedigaeth ar Gymru i’w gweithredu a chadw atynt.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

3 Chwefror 2023